Pam maethu gyda ni?

Cefnogaeth a Manteision

Cyllid a lwfansau

Fel gofalwr maeth gyda thîm Maethu Cymru Ynys Môn, byddwch yn derbyn lwfansau ariannol hael. Mae’r lwfansau hyn yn seiliedig ar ffactorau fel y math o faethu rydych chi’n ei wneud, nifer y plant rydych chi’n eu maethu, ac am ba mor hir rydych chi’n maethu.

Yn Ynys Môn, mae yna ofalwyr maeth sy’n derbyn rhwng £13,294 a £23,443 y plentyn, bob blwyddyn.

Manteision eraill

Mae bod yn ofalwr maeth yn Ynys Môn arwain at lu o fanteision. Yn ogystal â chael lwfansau ariannol a chefnogaeth benodol, byddwch hefyd yn cael:

  • Gostyngiad o 50% ar eich treth gyngor
  • Parcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio’r Awdurdod Lleol
  • Aelodaeth o ganolfan hamdden am ddim gyda Môn Actif
  • Taliadau ychwanegol fel lwfansau gwyliau a phen-blwyddi
  • Gostyngiadau arbennig i deuluoedd maeth Ynys Môn

Ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Ond dim dyna’r cyfan. Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i’r hyn rydyn ni’n ei alw’n Ymrwymiad Cenedlaethol, sef pecyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision y mae ein holl ofalwyr maeth yn ei gael. Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch chi’n elwa o’r canlynol:

Teulu yn chwarae gyda phêl ar y traeth

un tîm

Mae ein tîm yn cynnwys yr holl weithwyr proffesiynol ymroddedig sy’n ymwneud â bywyd plentyn maeth – o weithwyr cymdeithasol i athrawon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn ogystal â’n gofalwyr maeth pwysig wrth gwrs. Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd bob dydd, oherwydd rydyn ni i gyd yn rhan o’r Awdurdod Lleol. Mae’r ffocws hwn ar gysylltiad yn helpu i sicrhau bod y plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw, yn ogystal â’u teuluoedd maeth, yn cael y dyfodol gorau posibl. Fel gofalwr maeth, byddwch chi wastad yn cael eich gwerthfawrogi a’ch parchu yn y tîm.

Drwy ddod yn rhan o dîm Maethu Cymru, byddwch chi’n uno â’r rheini sy’n gyfrifol am bob plentyn mewn gofal yng Nghymru, a byddwch chi’n ein helpu ni gyda’n cenhadaeth o gadw plant yn eu hardal leol.

Pacio teulu i fynd allan am y diwrnod

dysgu a datblygu

Mae ein pecyn cymorth sydd wedi cael ei ystyried, ei brofi a’i rannu o fudd i holl aelodau Maethu Cymru. Mae dysgu a thyfu yn rhannau pwysig o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig.

Rydyn ni’n darparu’r hyfforddiant proffesiynol a’r gwaith paratoi sydd eu hangen arnoch i ddatblygu’n ofalwr maeth hyderus a medrus ac i allu diwallu anghenion y plant yn eich gofal.

Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch yn cael cofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu i gofnodi’r cynnydd rydych chi’n ei wneud yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Teulu'n bwyta hufen iâ ar lan y môr

cefnogaeth

Gyda Maethu Cymru, gallwch bob amser ddibynnu ar rywun i’ch cefnogi a’ch annog ar bob cam o’ch taith. Rydyn ni ar gael bob awr o’r dydd.

Bydd gennych chi weithiwr cymdeithasol profiadol a phroffesiynol wrth law i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cyfan.

Bydd gennych chi hefyd fynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi, lle byddwch chi’n dod i adnabod gofalwyr maeth eraill. Bydd hyn yn gyfle i chi siarad, gwrando a rhannu eich straeon. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael gan bob tîm Maethu Cymru lleol, a gall wneud byd o wahaniaeth.

Mae cefnogaeth broffesiynol ar gael hefyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’n gofalwyr maeth, sy’n golygu ein bod ni bob amser yma i chi. Dim ots faint o’r gloch yw hi.

Byddwch yn dod o hyd i gymunedau newydd yma, ffrindiau newydd a byd o gefnogaeth.

Teulu y tu allan i'r cartref

y gymuned faethu

Mae cadw mewn cysylltiad yn rhywbeth rydyn ni’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Bydd y gymuned faethu yn dod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau. Fel gofalwr maeth yn Ynys Môn, byddwch yn cael eich gwahodd i ymuno â Chymdeithas Gofal Maeth Môn (CGMM), sy’n cael ei rhedeg gan ein teuluoedd maeth anhygoel. Byddwch chi’n gwneud ffrindiau newydd, yn cael profiadau newydd ac yn creu atgofion newydd.

Hefyd, byddwch chi’n gallu cael gafael ar wybodaeth a chyngor ar-lein, felly fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn yn talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru, er mwyn i chi gael mynediad at gefnogaeth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad a manteision eraill, pryd bynnag y bydd arnoch chi angen hynny.

Teulu yn edrych ar rywbeth ar y traeth

llunio’r dyfodol

Mae gan bob plentyn orffennol, ond rydyn ni’n canolbwyntio ar newid y dyfodol. Creu lle diogel a hapus i blentyn.

Bydd eich llais yn cael ei glywed ar draws y wlad a bydd eich barn yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n symud ymlaen. Bydd cyfleoedd i chi ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru. Llunio’r dyfodol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol hefyd.

cymryd y cam cyntaf

cysylltwch â ni heddiw

Cyngor Ynys Môn yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Ynys Môn yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd