Ffyrdd o faethu

Pwy all faethu

Pwy all faethu yn Ynys Môn?

Mae yna blant sydd angen sefydlogrwydd arnyn nhw yn lle’r ydych chi’n byw – rhywun y gallan nhw droi ato bob amser. P’un ai ydych chi’n rhentu eiddo neu’n berchen ar dŷ, yn sengl neu’n briod, efallai mai chi yw’r person hwnnw. Mae’r un peth yn wir am ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol – dydy’r manylion hyn ddim yn ffactorau sy’n pennu pwy sy’n gallu maethu. Mae gofalwyr maeth yn dod o bob math o wahanol gefndiroedd.

Mae Maethu Cymru Ynys Môn yn falch o ddathlu amrywiaeth. Rydyn ni’n rhoi gwerth ar wahanol brofiadau a setiau sgiliau.

Darllenwch fwy i weld a yw maethu i chi.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Fel gofalwr maeth, gallwch newid bywyd plentyn mewn cynifer o ffyrdd. Mae maethu’n gallu golygu pethau gwahanol iawn, boed hynny’n ofal maeth dros nos neu’n lleoliad tymor hir. Mae angen gwahanol bobl hefyd – mae angen gofalwyr maeth arnon ni sydd â chefndiroedd, profiadau a storïau gwahanol.

Ni yw eich cyfundrefn gefnogi bwrpasol. Rydyn ni’n gweithio fel tîm gyda’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned i gyflawni’r gorau i blant Ynys Môn.

O ran pwy sy’n gallu maethu, gofynnwch y ddau gwestiwn hwn i chi’ch hun: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?

alla i faethu yn ynys môn os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Os ydych chi’n gweithio’n llawn amser, mae’n dal yn bosibl i chi faethu. Dydy swydd amser llawn ddim yn rhwystr, ond efallai y bydd angen meddwl yn fwy gofalus am bethau.

Er enghraifft, fel gweithiwr llawn amser, gallech faethu’n rhan-amser drwy gynnig seibiant byr. Gall maethu fod yn rhan o’ch bywyd os ydych chi’n dymuno iddo fod. Mae angen ymrwymiad a dull cydweithredol: byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol, athrawon a therapyddion, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi chi drwy gydol eich taith.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Gallwch. Does dim ots a ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais.

Beth os byddai’n bosibl defnyddio eich ystafell sbâr i greu man diogel i blentyn sydd ei angen? Rhywle lle gall deimlo’n gartrefol.

Y peth pwysicaf yw eich bod yn teimlo’n ddiogel lle rydych chi’n byw. Gallwn weld beth fydd yn gweithio orau i chi, p’un ai ydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n rhentu.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Gallwch. Bydd maethu’n golygu ymestyn eich teulu a chroesawu mwy o blant i’ch cartref i chi eu caru a gofalu amdanyn nhw.

Mae cael brodyr a chwiorydd maeth yn gallu bod yn fuddiol i blant hefyd. Mae’n rhoi dealltwriaeth iddyn nhw, yn eu helpu i wneud ffrindiau â phlant eraill ac yn datblygu eu gallu i ofalu am eraill.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does dim y fath beth â bod yn rhy hen i faethu – gall pobl o bob oed ddod yn ofalwr maeth. Byddwn ni’n sicrhau eich bod chi’n cael yr hyfforddiant a’r gefnogaeth leol broffesiynol sydd eu hangen arnoch i’ch paratoi ar gyfer eich taith tuag at faethu.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Does dim terfyn oedran isaf ar gyfer maethu. Dydy bod yn ifanc ddim yn golygu na allwch chi ddod yn ofalwr maeth. Byddwn yn eich tywys drwy’r daith faethu, gan sicrhau eich bod yn gallu diwallu anghenion y plant yn ein gofal yn llawn.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Dydy eich statws priodasol ddim yn cael ei ystyried o gwbl. Yr hyn rydych chi’n gallu ei gynnig i blentyn sy’n bwysig – allwch chi gynnig sefydlogrwydd? Cartref diogel a chariadus? Dyma’r pethau sy’n gwneud gwahaniaeth.

Fel eich tîm Maethu Cymru lleol, byddwn yn eich helpu i benderfynu ai dyma’r amser iawn i chi, p’un ai ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil neu beidio.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Dydy eich rhywedd ddim yn pennu a ydych chi’n addas i faethu plentyn. Eich rhinweddau a’ch sgiliau personol yw’r ffactorau hollbwysig.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Gallwch. Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn ystyriaeth o ran maethu. Yr hyn sy’n bwysig yw eich ymrwymiad i ddarparu cartref diogel a sefydlog i blentyn.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Fydd cael anifail anwes ddim yn effeithio ar eich cais i faethu. Yn wir, mae anifeiliaid anwes yn gallu darparu math arall o gymorth i blentyn maeth a bod o fudd go iawn mewn teulu maeth.

Byddwn yn cynnwys eich ci neu’ch cath yn eich asesiad i sicrhau bod eich anifail anwes yn ddiogel o gwmpas plant.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Fydd bod yn ysmygwr ddim o reidrwydd yn eich atal rhag maethu, ond gyda ni mae’n golygu na allwch chi faethu plant o dan 5 oed. Os ydych chi eisiau rhoi’r gorau i ysmygu, byddwn yn cynnig cefnogaeth i’ch helpu i ysmygu llai a rhoi’r gorau iddi.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r gyfatebiaeth addas rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Fydd bod yn ddi-waith ddim yn eich atal rhag maethu. Mae bod yn ofalwr maeth da yn golygu gallu rhoi cefnogaeth, arweiniad a chariad, ond mae sefydlogrwydd ariannol yn cael ei ystyried hefyd. Felly gan gadw hynny mewn cof, byddwn ni’n gweithio gyda chi i weld ai dyma’r amser iawn i chi faethu.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Does dim rhaid i chi gael tŷ mawr i fod yn ofalwr maeth. Cyn belled â bod gennych chi ystafell wely sbâr mewn amgylchedd sefydlog, gallech chi ddarparu’r lle diogel sydd ei angen ar blentyn.

Rhagor o wybodaeth am faethu

Mathau o faethu455454

Mae maethu yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun. Boed hynny am brynhawn, penwythnos, blwyddyn neu fwy.th: mae pob trefniant gofal maeth yn darparu lle diogel.

dysgwch mwy

Cwestiynau Cyffredin455454

Sut mae maethu yn Ynys Môn yn gweithio a beth alla i ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael yma.

dysgwch mwy

Mathau o faethu

Mae maethu yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun. Boed hynny am brynhawn, penwythnos, blwyddyn neu fwy.th: mae pob trefniant gofal maeth yn darparu lle diogel.

dysgwch mwy

Cwestiynau Cyffredin

Sut mae maethu yn Ynys Môn yn gweithio a beth alla i ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael yma.

dysgwch mwy

Cysylltwch heddiw

Cyngor Ynys Môn yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Ynys Môn yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd