Ffyrdd o faethu

Mathau o faethu

Mathau o ofal maeth

Mae gofal maeth yn gallu golygu unrhyw beth o aros dros nos i rywbeth mwy hirdymor. Er bod yr amser yn amrywio o un teulu i’r llall, mae un elfen bob tro yr un fath: mae pob trefniant gofal maeth yn darparu lle diogel.

Mae pob teulu maeth yn wahanol – gall pobl o bob cefndir faethu a darparu amgylchedd diogel i blentyn. Rhywle lle gall deimlo bod rhywun yn ei garu.

gofal maeth tymor byr

Dad gyda dau o blant yn chwarae gêm bêl ar y traeth

Mae gofal maeth tymor byr yn gartref dros dro i blentyn tra bo cynlluniau’n cael eu hystyried.

Fel gofalwr maeth tymor byr, byddwch yn gweithio gyda ni ar y daith tuag at sicrhau maethu tymor hir, sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘sefydlogrwydd’. Byddwch yn cefnogi’r plentyn bob cam o’r ffordd tra bydd arno eich angen chi, ac yn ei helpu i drosglwyddo at ei deulu, at ei deulu maeth nesaf, neu at deulu sy’n mabwysiadu.

Dad a dau o blant yn paratoi i fynd i'r traeth

Gall arhosiad byr wneud byd o wahaniaeth i blentyn. Gall hyd yn oed diwrnod arwain at lwybr tuag at ddyfodol hapusach, mwy disglair.

gofal maeth tymor hir

Dad a dau o blant yn chwerthin ac yn bwyta hufen iâ

Mae gofal maeth tymor hir yn darparu teulu newydd a chariadus i blant sydd ddim yn gallu aros gartref.

Dad a dau o blant yn pacio blychau cinio

Drwy ystyried popeth yn ofalus, mae’r math hwn o ofal maeth yn golygu paru’r plentyn iawn gyda’r gofalwr iawn am gyhyd ag y bo angen – yn aml nes bydd wedi tyfu’n oedolyn. Mae’n rhoi sefydlogrwydd tymor hir i blentyn. Rhywle mae’n gallu ei alw’n gartref bob amser.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae mathau arbenigol o ofal yn dod o dan ofal maeth tymor byr a thymor hir. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

Dad yn helpu ei ddau blentyn i adeiladu castell tywod ar y traeth

Seibiant byr

Mae seibiant byr yn galluogi plant a’u teuluoedd i gael hoe fach – cyfle i ddod atyn nhw’u hunain a chael rhywfaint o amser i ffwrdd. Wedi’r cyfan, mae angen seibiant ar bob un ohonon ni o bryd i’w gilydd. Mae seibiant byr yn golygu aros dros nos, er enghraifft ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau’r ysgol.

Mae seibiant byr yn cael ei alw’n ‘ofal cymorth’ weithiau, mae’n cael ei drefnu ymlaen llaw yn aml, a gall ddigwydd yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn dod yn rhan o deulu estynedig y plentyn, gan roi profiadau a chyfleoedd newydd i blant.

Dad with two children walking on the beach in Anglesey

Rhiant a phlentyn

Mae lleoliadau rhiant a phlentyn ar gyfer y rheini sydd angen arweiniad ychwanegol gyda magu plant. Bydd y math hwn o faethu yn eich galluogi i gefnogi rhiant ifanc a’i blentyn mewn amgylchedd diogel, gan ddefnyddio eich profiadau magu plant eich hun. Byddwch yn gweithio gyda’r rhiant a’r plentyn nes bydd y rhiant yn hyderus i ofalu am ei blentyn yn annibynnol.

ffoaduriaid ifanc

 Delwedd o fachgen ifanc gyda baner Wcráin wedi'i phaentio ar ei wyneb yn edrych allan trwy ffenestr

Mae ffoaduriaid ifanc yn cyrraedd y DU ar eu pen eu hunain neu wedi'u gwahanu oddi wrth eu teulu yn ystod y daith - yn chwilio am ddiogelwch a dechrau newydd. Mae mwy na 100 o’r ffoaduriaid ifanc hyn yn cyrraedd Cymru bob blwyddyn.

Rydym angen teuluoedd yn Ynys Môn a all gynnig cymorth, sefydlogrwydd ac arweiniad i ffoaduriaid ifanc wrth iddynt ailddarganfod eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.

Gofalwr maeth yn cofleidio ei phlant maeth

Gyda'n cefnogaeth a'n harweiniad, gallwch chi helpu i arwain ffoadur ifanc tuag at ddyfodol cadarnhaol, gan roi'r cyfle iddynt ddysgu ac adennill eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.

I gael gwybod sut y gallwch gefnogi ffoadur ifanc, cysylltwch â ni i ofyn am becyn gwybodaeth.

cysylltwch heddiw

Cyngor Ynys Môn yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Ynys Môn yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd